
Ailddatblygiad Neuadd Ddinesig Conwy
ATODLEN 1B: CYHOEDDUSRWYDD AC YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM
GANIATÂD CYNLLUNIO O DAN ERTHYGLAU 2C A 2D
Gorchymyn Cynllunio
Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012
Mae’r hysbysiad hwn yn rhoi cyfle i wneud sylwadau yn uniongyrchol i’r datblygwr ynglŷn â datblygiad arfaethedig cyn cyflwyno cais cynllunio i Cyngor Bwrdestref Sirol Conwy. Bydd unrhyw gais cynllunio dilynol yn cael ei hysbysebu gan Cyngor Bwrdestref Sirol Conwy; ni fydd unrhyw sylwadau a ddarperir mewn ymateb i’r hysbysiad hwn yn lleihau dim ar eich gallu i gyflwyno sylwadau i Cyngor Bwrdestref Sirol Conwy ar unrhyw gais cynllunio cysylltiedig. Dylech nodi y gall unrhyw sylw a gyflwynir gael ei gadw yn y ffeil gyhoeddus.
Datblygiad Arfaethedig yng nghyn lyfrgell a Neuadd Ddinesig Conwy, Y Stryd Fawr, Conwy, LL32 8AL. Dangosir lleoliad y safle ar y map ar y dde.
Rhoddir hysbysiad bod Nautical Point Cyfyngedig yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer ailddatblygiad Neuadd Ddinesig Conwy yn cynnwys newid defnydd yr adeilad presennol i greu datblygiad defnydd cymysg gan gynnwys defnydd masnachol a thwristiaeth ar ffurf neuadd fwyd, bwyty a gwesty fflatiau (aparthotel) ynghyd a gwaith cysylltiedig.
Gellwch archwilio copiau o’r canlynol:
- y cais arfaethedig;
- y cynlluniau; a
- dogfennau ategol eraill.
Ar-lein ar www.nauticalpointconsultationportal.uk
Mae cyfleusterau cyfrifiadur ar gael i weld y
wybodaeth hon ar-lein yng Nghanolfan Ddiwylliant
Conwy, Ffordd Town Ditch, Conwy, LL32 8NU, yn
ystod yr oriau canlynol:
Amseroedd agor
Dydd Llun 09:30 – 17:00
Dydd Mawrth 10:00 – 19:00
Dydd Mercher 09:30 – 17:00
Dydd Iau 09:30 – 17:00
Dydd Gwener 09:30 – 17:00
Dydd Sadwrn 10:00 – 13:00
Dydd Sul Closed
Dylai unrhywun sydd eisiau gwneud sylwadau am y datblygiad arfaethedig yma ysgrifennu atom ar:
Cadnant Planning
20 Tŷ Connaught
Parc Busnes Riverside
Ffordd Benarth
Conwy
LL32 8UB
01492 581 800
Erbyn: 06 Ionawr 2023
Arwyddwyd: S Edwards
Sioned Edwards MRTPI
Dyddiad: 25 Tachwedd 2022